Grŵp Dros 50  

A oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddi i fod yn athro Extend?

 

CWRS HYFFORDDI EXTEND AM DDIM

 

 

 

Amser                                    9.00am - 4.30pm (Mawrth / Mercher)

 

Dates                                    

14 & 15             Hydref

21 & 22             Hydref           

28 & 29             Hydref

4 & 5                  Tachwedd

11 & 12             Tachwedd

25 & 26             Tachwedd

2 & 3                  Rhagfyr

 

Lleoliad                                 i’w gadarnhau

 

Beth yw Extend ac ar gyfer pwy ?          

Ymarfer corff i fiwsig yw Extend ar gyfer dynion a menywod hŷn a phobl llai abl o bob oed. Nid yn unig yr henoed mewn cartrefi preswyl gall fanteisio oddi wrth Extend ond hefyd y rhai sydd newydd ymddeol ac sy’n heini yn ogystal â’r ‘henoed iach newydd’ – sef pobl sy’n  dal i fyw’n annibynol yn eu wythdegau ymlaen.

  

Beth yw manteision Extend?

Mae medru byw’n annibynol a gwneud penderfyniadau yn rhoi gwerth i fyw’n hirach. Bwriad Extend yw i wella safon bywyd hyd ddiwedd oes trwy hyrwyddo iechyd, cynyddu symudedd ac annibyniaeth, gwella cryfder, cydgysylltu a balans a gwrthsefyll unigrwydd ac unigedd. Mae Extend wedi gwneud lles i lawer o bobl yng Ngheredigion ac wedi rhoi pleser gwaith i nifer o hyfforddwyr - yn ogystal â’r cyfle i wneud incwm ychwanegol.

 

Beth sy’n digwydd ar y cwrs ?

Mae’r cwrs yn costio £500 yr un (telir y gost gan Strategaeth Pobl Hŷn Ceredigion) ac mae’n dysgu elfennau fel anatomeg a ffisioleg, heneiddio ac wrth gwrs symud i fiwsig yn ogystal â hyrwyddo iechyd da, bwyd a maeth. Mae yna arholiad ysgrifenedig (neu ar lafar) ac asesiad ymarferol – ond peidiwch a phoeni am hyn achos fe ddarperir cefnogaeth llawn i chi drwy’r cwrs. 

 

Mae nifer y lleoedd yn brin felly y cyntaf i’r felin caiff falu.....

 

Cysylltwch gyda:       Gweneira Raw-Rees 01545 574019 neu 07968 694632

                         gweneirarr@ceredigion.gov.uk